Y Pwyllgor Deisebau |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 17 Gorffennaf 2012 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:00 - 10:30 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
William Powell (Cadeirydd) Russell George Bethan Jenkins Joyce Watson |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Trevor Purt, Bwrdd Iechyd Hywel Dda Sian-Marie James, Bwrdd Iechyd Hywel Dda |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Abigail Phillips (Clerc) Sarita Marshall (Dirprwy Glerc) Helen Roberts (Cynghorydd Cyfreithiol) |
|||
|
|
||||
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Nid oedd unrhyw ymddiheuriadau.
2. Deisebau newydd
2.1 P-04-407 Achub Llety Gwarchod Kennard Court ar gyfer Pobl Hŷn
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth a Thai Cymunedol Bron Afon i ofyn am eu barn ar bwnc y ddeiseb hon.
Cytunwyd y byddai’r tîm clercio yn rhoi gwybod i’r Aelodau am unrhyw ddatblygiadau sy’n sensitif o ran amser dros gyfnod y toriad.
2.2 P-04-408 Gwasanaeth i Atal Anhwylder Bwyta ymysg Plant a Phobl Ifanc
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i:
Ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am ei barn ar y ddeiseb;
Cyfeirio’r ddeiseb at y Grŵp Trawsbleidiol ar Anhwylderau Bwyta.
Nodwyd hefyd y bydd adolygiad o’r fframwaith anhwylderau bwyd ymysg oedolion.
3. Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol
3.1 P-04-405 Llawysgrif ganoloesol o Gyfreithiau Hywel Dda
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth sy’n gysylltiedig â’r ddeiseb hon a chytunodd i:
Ysgrifennu at y deisebydd yn ei longyfarch ar ei waith ar y mater hwn;
Cau’r ddeiseb gan fod y llawysgrif wedi’i brynu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru.
3.2 P-04-324 Dywedwch na i TAN 8 - mae ffermydd gwynt a llinellau pŵer foltedd uchel yn difetha ein cymuned
Yn sgîl cyhoeddi adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar yr ymchwiliad i Bolisi Ynni a Chynllunio yng Nghymru, cytunodd y Pwyllgor i ofyn i’r deisebwyr a oes ganddynt sylwadau cloi i’w gwneud cyn ystyried cau’r ddeiseb yn yr hydref.
3.3 P-03-273 Cludo tyrbini gwynt yn y Canolbarth
Yn sgîl cyhoeddi adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar yr ymchwiliad i Bolisi Ynni a Chynllunio yng Nghymru, cytunodd y Pwyllgor i ofyn i’r deisebwyr a oes ganddynt sylwadau cloi i’w gwneud cyn ystyried cau’r ddeiseb yn yr hydref.
3.4 P-04-343 Atal dinistrio amwynderau ar dir comin - Ynys Môn
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth sy’n gysylltiedig â’r ddeiseb hon a chytunodd i aros am ganlyniad yr ymchwiliad gan Arolygiaeth Wledig Cymru.
3.5 P-03-280 Ysbyty Brenhinol Caerdydd
Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb.
3.6 P-04-334 Uned Arennol Newydd yn Ysbyty Tywysog Siarl
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth sy’n gysylltiedig â’r mater hwn a chytunodd i aros am benderfyniad ar uned newydd a ddisgwylir ym mis Awst 2012.
3.7 P-04-395 Dylai Ambiwlans Awyr Cymru gael arian gan y Llywodraeth
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y ddeiseb hon a chytunodd i ofyn am farn y deisebydd ar yr ohebiaeth.
3.8 P-04-402 Gweddïau Cyngor
Ystyriodd y Pwyllgor gyngor cyfreithiol mewn cysylltiad â phwnc y ddeiseb a chytunodd i aros am ymateb y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau i lythyr cychwynnol y Cadeirydd.
4. Sesiwn Dystiolaeth Lafar
4.1 P-04-394 Achub ein Gwasanaethau – Ysbyty Tywysog Philip
4.2 P-04-367 Achub ein Gwasanaethau Ysbyty
Atebodd y tystion gwestiynau gan y Pwyllgor ar bwnc y deisebwyr.
Cytunodd y tystion i roi manylion i’r Pwyllgor am y dulliau cyfathrebu amrywiol a ddefnyddir yn y broses ymgysylltu.
5. Papurau i'w nodi
Nododd y Pwyllgor y papurau.
5.1 P-04-329 Rheoli sŵn o dyrbinau gwynt sy’n peri diflastod
5.2 P-04-341 Gwastraff a Llosgi
6. Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:
Cytunodd y Pwyllgor i:
Annog y deisebwyr i ymgysylltu â’r broses ymgynghori pan fydd yn dechrau;
Cyflwyno crynodeb o’r pwyntiau allweddol y mae’r Pwyllgor yn teimlo y dylai’r ymgynghoriad fynd i’r afael â nhw.
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.